Lecturer in Politics
Cardiff University
Job Advert
Lecturer in Politics (Teaching & Research)
School of Law and Politics
The School of Law and Politics is seeking to appoint an outstanding candidate to join our internationally renowned Department of Politics and International Relations.
The Department of Politics and International Relations is a dynamic and growing part of the inter-disciplinary School of Law and Politics. We are an intellectually pluralist and diverse community, with internationally recognised and long-established strengths in political theory; Welsh politics and devolution; British political history; and UK and European politics and public policy. In the past decade the department has invested heavily in enhancing its strength in international relations and global politics, and now has a strong research profile in areas including cold war history; nuclear politics; critical international theory; colonialism and postcolonialism; gender studies; environmental politics; critical military and intelligence studies; and international law. Research and teaching across the department embraces a variety of intellectual and methodological approaches. Moreover, being situated in a School of Law and Politics presents opportunities to innovate across disciplinary boundaries in both teaching and research.
Sub-disciplines across Politics and International Relations are actively engaged in five interdisciplinary research ‘nexuses’ across the School of Law and Politics, namely Global Governance: Wales, Europe and Beyond; Conflict, Security and Society; Law and Politics of Technology; Social Justice and Alternative Futures; and Future Generations and Sustainability. These areas are developing a dynamic research environment through a variety of activities, including the development of reading groups and collaborative publications, mentorship, work-in-progress support sessions, the development of joint funding bids, and workshops. Applicants are expected to amplify expertise in these broad areas and further shape the Department’s profile.
We are seeking to appoint an outstanding candidate to join the School as a Lecturer in Politics at Grade 6 with expertise in quantitative political behaviour, political psychology, and/or public opinion, with particular interest in electoral behaviour in multilevel systems.
We are particularly interested in candidates whose expertise extends and complements existing expertise in the department in this area.
The successful candidate will have a burgeoning research profile commensurate to their career stage. They will be expected to contribute to research and other research-related activities of the School.
The successful candidate will have a demonstrable ability to teach to a high standard and will be expected to contribute to the teaching programme of the department at both undergraduate and postgraduate levels. Past experience teaching quantitative methods at undergraduate and/or postgraduate level is particularly valued, as is experience working with experimental designs and/or large-scale longitudinal survey data.
The successful candidate will be expected to contribute to the success of the school by undertaking administrative roles within the Department, the School, and the University as appropriate.
For further information about the Department and its work, please contact Dr Jon Kirkup, Head of the Department of Politics and International Relations, at Sign in to view email
Website: https://www.cardiff.ac.uk/law-politics
This post is full time and open-ended, to start in the first or second semester of the 2026-2027 academic year.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6)
Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale, unless in exceptional circumstances.
Date advert posted: Friday, 24 July 2026 Closing date: Friday, 21 August 2026
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment - Research - Cardiff University
Hysbyseb Swydd
Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth - Addysgu ac Ymchwil Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn awyddus i benodi ymgeisydd neilltuol i ymuno ag adran Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol - adran o fri byd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r Adran Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhan ddeinamig o sefydliad rhyngddisgyblaethol Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sydd wedi tyfu’n sylweddol mewn blynyddoedd diweddar. Rydym yn gymuned sy’n amrywiol ei safbwyntiau deallusol, gyda chryfderau hirsefydlog a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes damcaniaeth wleidyddol, gwleidyddiaeth Cymru a datganoli; hanes gwleidyddiaeth Prydain; a gwleidyddiaeth Ewrop a’r DU a pholisi cyhoeddus. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r adran wedi buddsoddi'n helaeth i ymgryfhau ymhellach ym maes cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth fyd-eang. Bellach, mae ganddi broffil ymchwil cryf mewn meysydd sy’n cynnwys hanes y rhyfel oer; gwleidyddiaeth niwclear; theori ryngwladol feirniadol; trefedigaethedd ac ôl-drefedigaethedd; astudiaethau rhywedd; gwleidyddiaeth amgylcheddol; astudiaethau milwrol ac astudiaethau cudd-wybodaeth; a chyfraith ryngwladol. Mae ymchwil ac addysgu ar draws yr adran yn manteisio ar amrywiaeth o ddulliau gweithredu deallusol a methodolegol. Ymhellach, mae bod yn rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig cyfleoedd i arloesi ar draws ffiniau disgyblaethol ym meysydd addysgu ac ymchwil.
Mae is-ddisgyblaethau ar draws Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cymryd rhan weithredol mewn pum cytsêr ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: Llywodraethu Byd-eang: Cymru, Ewrop a thu hwnt; Gwrthdaro, Diogelwch a Chymdeithas; y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Technoleg; Cyfiawnder Cymdeithasol a Dyfodol Amgen; a Chenedlaethau'r Dyfodol a Chynaliadwyedd. Mae'r meysydd hyn yn datblygu amgylchedd ymchwil ddeinamig trwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys datblygu grwpiau darllen a chyhoeddiadau ar y cyd, mentora, sesiynau cymorth gyda gwaith ar y gweill, datblygu ceisiadau am arian ar y cyd, a gweithdai. Disgwylir i ymgeiswyr gyfrannu o’u harbenigedd yn y meysydd eang hyn gan gryfhau proffil yr Adran ymhellach.
Rydym yn ceisio penodi ymgeisydd rhagorol i ymuno â'r Ysgol fel Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Gradd 6 gydag arbenigedd mewn ymddygiad gwleidyddol meintiol, seicoleg wleidyddol, a/neu farn y cyhoedd, gyda diddordeb arbennig mewn ymddygiad etholiadol mewn systemau aml-lefel.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr y mae eu harbenigedd yn estyn ac yn ategu’r arbenigedd presennol yn yr adran yn y maes hwn.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus broffil ymchwil cryf sy'n gymesur â'u cyfnod gyrfa. Disgwylir iddynt gyfrannu at ymchwil a gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig ag ymchwil yn yr Ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus allu amlwg i ddarparu addysg o safon uchel a disgwylir iddynt gyfrannu at raglen addysgu'r adran ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Mae profiad blaenorol o addysgu dulliau meintiol ar lefel israddedig a/neu ôl-raddedig yn cael ei werthfawrogi'n arbennig, yn ogystal â phrofiad o weithio gyda dyluniadau arbrofol a/neu ddata arolwg hydredol ar raddfa fawr.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at lwyddiant yr ysgol drwy ymgymryd â rolau gweinyddol o fewn yr Adran, yr Ysgol, a'r Brifysgol yn ôl yr angen.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Adran a'i gwaith, cysylltwch â Dr Jon Kirkup, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth, ar Sign in to view email
Gwefan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/law-politics
Mae'r swydd hon yn amser llawn ac yn barhaol, i ddechrau yn semester cyntaf neu ail semester blwyddyn academaidd 2026-2027.
Cyflog: £41,046 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwner, 24 Gorffemaf 2026 Dyddiad cau: Dydd Gwener, 21 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
For employers only
Is this your company's job post? Verify ownership to manage this listing and receive applications directly.
Claim this listingLooking to apply for this job? Use the Apply button above.
See more jobs in Cardiff, Wales