Hyfforddwr Cynnydd (Lefel A)
Gower College Swansea
Amdanom ni
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl
Mae cyfle cyffrous wedi dod i law i weithio o fewn ein hadran Safon Uwch lwyddiannus a thîm ehangach Gwasanaethau Dysgwyr y Coleg. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, ysbrydoledig a phrofiadol i gefnogi staff yn yr adrannau hyn.
- Amser llawn (37 awr yr wythnos)
- Parhaol
- £29,522- £32,084 y flwyddyn
- Prif safle: Campws Gorseinon
- Dyddiad cau: 16:59 ddydd Iau 23 Gorffennaf Mae cyfweliadau wedi'u trefnu ar hyn o bryd ar gyfer dydd Gwener 31 Gorffennaf a dydd Llun 3 Awst
Cyfrifoldebau allweddol
- Cefnogi dysgwyr i gyflawni eu nodau, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n llawn i lwyddo yn eu hastudiaethau, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau academaidd ehangach a sgiliau hanfodol eraill a fydd yn galluogi dilyniant addas.
- Mynd i'r afael yn effeithiol â materion a phryderon dysgwyr, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â phresenoldeb, prydlondeb, cymhelliant ac agwedd at ddysgu, er mwyn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a gofalgar.
- Cyflwyno pob agwedd ar ein rhaglen diwtorial Safon Uwch i grwpiau tiwtoriaid llawn.
- Cynnal sesiynau un-i-un rheolaidd gyda charfan o ddysgwyr, gan ganolbwyntio ar eu targedau, eu nodau a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni'r rhain.
- Gweithio'n rhagweithiol gyda dysgwyr i wella presenoldeb, cadw a chyrhaeddiad a mynd i'r afael â materion ymddygiad cyffredinol, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd 'mewn perygl', gan sicrhau atgyfeiriadau/cyfathrebu amserol â darlithwyr, Rheolwyr Meysydd Dysgu, a thimau cymorth eraill.
Amdanoch chi
- Dal gradd neu gymhwyster Lefel 4 (neu fod ar y trywydd iawn i'w cael) a meddu ar 5 TGAU gradd C neu gyfwerth. Rhaid i chi hefyd fod yn barod i weithio tuag at gymhwyster mentora gan gymheiriaid.
- Sgiliau trefnu a datrys problemau rhagorol, y gallu i weithio'n hyblyg dan bwysau, yn ogystal â sylw manwl i fanylion.
- Bydd angen profiad o addysgu a/neu weithio gyda phobl ifanc, yn ogystal â phrofiad o drefnu gweithgareddau a chyflwyno.
- Sgiliau TG a sgiliau rhyngbersonol i gyfathrebu'n effeithiol yn fewnol ac yn allanol â rhanddeiliaid (wyneb yn wyneb ac yn rhithwir).
- Mae hyblygrwydd yn hanfodol er mwyn gweithio ar draws safleoedd gwahanol y Coleg (ac ar benwythnosau a gyda'r nos achlysurol pan fo angen).
Buddion
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
- Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
- Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
- Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
Are you the employer?
Claim this listing — get Easy Apply, applicant tracking, and priority placement.
See more jobs in Swansea, Wales