Swyddog Cymorth Addysgol

Gower College Swansea

Date: 8 hours ago
City: Swansea, Wales
Salary: £13.52 / hr
Contract type: Contractor

Amdanom ni

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.

Y rôl

Ydych chi'n angerddol am gefnogi myfyrwyr a gwneud gwahaniaeth ym myd addysg? Rydym yn chwilio am Swyddogion Cymorth Addysg brwdfrydig i lenwi nifer o swyddi ar draws shifftiau amrywiol, gan gynnig cyfleoedd hyblyg i helpu dysgwyr i ffynnu.

  • Yn ystod y tymor (36 wythnos y flwyddyn)
  • Rhan-amser (18 awr yr wythnos)
  • Cytundeb cyfnod penodol tan 31 Awst 2027
  • £13.52 yr awr
  • Campws Tycoch, Abertawe

Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal yn gynnar neu ganol mis Medi. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i fynychu sesiwn flasu neu sesiwn rhagolwg o'r swydd (sy'n ddewisol) ar ddiwrnod eu cyfweliad, gan roi cyfle iddynt gael cipolwg ar y rôl a'r amgylchedd gwaith.

Prif Gyfrifoldebau

  • Darparu cymorth addysgol, emosiynol, cymdeithasol a phersonol i fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Cymryd rhan yn y ddarpariaeth o raglenni dysgu a'i chefnogi, yn unol â chyfarwyddiadau'r darlithwyr
  • Cynorthwyo gyda thrin a symud myfyrwyr sydd ag anghenion gofal personol, yn unol â'r cynllun gofal unigol

Amdanoch chi

  • Mae pasio TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (graddau A-C) neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol
  • Sgiliau TG sylfaenol, h.y. gallu defnyddio cyfrifiadur, a bod yn gyfarwydd â Microsoft Word a'r Rhyngrwyd
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion myfyrwyr ag anawsterau dysgu
  • Gallu gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu, gan gynnwys cynorthwyo gyda gofal personol.

Buddion

  • 28 diwrnod (pro rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
  • 2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
  • Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.

Gwybodaeth Bellach

  • Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
  • Cyflog Amser Llawn: £26,084 y flwyddyn

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg

I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu

Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
  • Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).