Cydlynydd Lleoliad Gwaith (Sgiliau Byw’n Annibynnol)

Gower College Swansea

Date: 2 weeks ago
City: Swansea, Wales
Contract type: Full time

Amdanom ni

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.

Y rôl

Bydd angen i chi ddod o hyd i leoliadau ar gyfer myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gefnogi eu datblygiad yn y gweithle. Mae'n hollbwysig ein bod yn dod o hyd i leoliadau ystyrlon a heriol i'n myfyrwyr fel y gallant symud ymlaen yn y pen draw i sicrhau cyflogaeth neu gyflogaeth â chymorth.

  • Rhan-amser (30 awr yr wythnos)
  • Parhaol
  • £19,057 - £20,746 y flwyddyn
  • Campws Tycoch, Abertawe

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cydgysylltu ag amrywiaeth o ddarparwyr lleoliadau gwaith i sicrhau profiad lleoliad o ansawdd da sy'n bodloni anghenion myfyrwyr ag anawsterau ac anableddau dysgu.
  • Dod o hyd i leoliadau gwaith newydd a meithrin rhai presennol i sicrhau llwyddiant parhaus.
  • Cynnal gwiriadau monitro a fetio ar leoliadau gwaith gan sicrhau bod yr holl gofnodion angenrheidiol ar gyfer monitro a chynllunio gweithredu wedi’u cwblhau.

Amdanoch Chi

  • 5 pàs TGAU (Gradd A-C) neu’r cyfwerth, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.
  • Gwybodaeth am fonitro lleoliadau gwaith a fetio neu barodrwydd gwblhau hyfforddiant yn y maes hwn.
  • Gwybodaeth am Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Cyfathrebwr hyderus a chall gyda'r gallu i gysylltu ag amrywiaeth o ddarparwyr lleoliadau.

Buddion

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig (pro rata).
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
  • 2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
  • Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.

Gwybodaeth Bellach

  • Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
  • Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg

I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu

Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
  • Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).

For employers only

Is this your company's job post? Verify ownership to manage this listing and receive applications directly.

Claim this listing

Looking to apply for this job? Use the Apply button above.