Ymgynghorydd Iechyd Myfyrwyr (Iechyd Meddwl)
Gower College Swansea
Ymgynghorydd Iechyd Myfyrwyr (Iechyd Meddwl)
Amdanom ni
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Ymgynghorydd Iechyd Myfyrwyr (Brysbennu) proffesiynol a rhagweithiol i ddarparu gwasanaeth cynghori iechyd i fyfyrwyr a rhoi arweiniad a chyngor ar faterion iechyd penodol i staff perthnasol.
Bydd y rôl yn cynnwys hyrwyddo iechyd a lles ar draws y Coleg, cynnal asesiadau risg ar gyfer cyflyrau meddygol risg uchel, cefnogi rhaglenni hybu iechyd, a gweithio’n agos gyda staff y gyfadran, y tîm Profiad a Lles Dysgwyr a gwasanaethau cymorth perthnasol.
- Rhan-amser (30 awr yr wythnos)
- Cyfnod Penodol (1 flwyddyn)
- £15.26 - £17.75 yr awr (Cyfatebol i Amser Llawn: £19.08 - £22.19)
- Traws-gampws, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynnal asesiadau risg ar unrhyw gyflwr meddygol sydd â risg uchel, gan roi cyngor ac arweiniad i staff ar sut i gefnogi dysgwyr yn ddiogel ac yn effeithiol.
- Cefnogi a darparu rhaglen Hybu Iechyd fisol, wedi’i theilwra i fynd i’r afael â materion iechyd perthnasol megis iechyd rhywiol, ffyrdd iach o fyw, ysmygu, gorbryder, iselder, straen a lles meddyliol cyffredinol.
- Gweithio’n agos â staff y gyfadran, Rheolwr Profiad a Lles Dysgwyr a’r Cydlynydd Cymorth i Ddysgwyr er mwyn asesu anghenion meddygol a chymorth myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu, iechyd corfforol a meddyliol.
- Goruchwylio a chefnogi’r gwaith o frysbennu achosion sy’n dod drwy Feel Safe, a chefnogi datblygiad a gweithrediad y modiwl iechyd ar y system hon.
Amdanoch Chi
- Nyrs / Therapydd Galwedigaethol cofrestredig neu weithiwr proffesiynol iechyd sydd ar y rhan berthnasol o’r gofrestr.
- Profiad ôl-gofrestredig, gan gynnwys profiad o weithio mewn amgylchedd addysgol.
- Profiad o weithio gyda phobl ifanc a darparu rhaglenni addysg iechyd.
- Y gallu i gyfathrebu’n glir ac yn effeithiol ar bob lefel, ynghyd â’r gallu i ddefnyddio menter bersonol, trefnu a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol.
Buddion
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025).
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
For employers only
Is this your company's job post? Verify ownership to manage this listing and receive applications directly.
Claim this listingLooking to apply for this job? Use the Apply button above.
See more jobs in Swansea, Wales