Cogydd

Gower College Swansea

Date: 3 weeks ago
City: Swansea, Wales
Salary: £26,476 - £28,822 / yr
Contract type: Full time

Amdanom ni

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl

Cynnig gwasanaeth arlwyo ar un o’n prif gampysau, gan sicrhau nifer fawr o fwyd o safon uchel ac o’r radd flaenaf. Byddwch yn gyfrifol am archebu bwyd, cynllunio bwydlenni, coginio, glanhau a defnyddio’r til.

  • Llawn amser (37 awr yr wythnos)
  • 52 wythnos y flwyddyn
  • Parhaol
  • £26,476 - £28,822 y flwyddyn
  • Campws Tycoch, Abertawe

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Paratoi a choginio bwyd i safon uchel
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
  • Darparu bwffe/lletygarwch pan archebir
  • Cwblhau'r holl waith papur diogelwch bwyd perthnasol
  • Adolygu bwydlenni a helpu i’w creu
  • Sicrhau bod yr holl wybodaeth am alergenau yn cael ei ddarparu a sicrhau ei fod yn gywir
  • Monitro’r broses o gynhyrchu bwyd, ansawdd bwyd, meintiau a rheoli dognau
  • Darparu briff tîm bob dydd
  • Cynnal amgylchedd cegin glân a diogel i sgôr
  • Diogelwch Bwyd Lefel 5, gan sicrhau bod yr holl amserlenni glanhau yn cael eu cwblhau i safon uchel ac adrodd ar unrhyw broblemau yn brydlon
  • Archebu a derbyn eitemau bwyd ac eitemau nad ydynt yn fwyd gan ein cyflenwyr
  • Trin arian parod
  • Dirprwyo yn absenoldeb y Rheolwr

Amdanoch chi

  • NVQ Lefel 2 mewn Paratoi Bwyd neu gymhwyster cyfwerth
  • Profiad blaenorol o goginio neu arlwyo mewn cegin
  • Y gallu i weithio'n effeithlon ac o dan bwysau.
  • Safonau hylendid bwyd gwych

Buddion

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025)
  • 2 ddiwrnod lles i staff
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Ymholiadau anffurfiol: [email protected]

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.

Gwybodaeth Bellach

  • Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
  • Cynhelir cyfweliadau ar 21 Gorffennaf 2026.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg

I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu

Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)

For employers only

Is this your company's job post? Verify ownership to manage this listing and receive applications directly.

Claim this listing

Looking to apply for this job? Use the Apply button above.