Darlithydd mewn Tirlunio (0.5)
Gower College Swansea
Amdanom ni
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm staff yr Hyb Gwyrdd yng Ngholeg Gwyr Abertawe. Mae gan lawer o'r dysgwyr anghenion dysgu ychwanegol ac mae rhai yn arddangos ymddygiad heriol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynllunio, paratoi ac addysgu sesiynau cyffrous a difyr o fewn maes pwnc tirlunio
- Cyfrannu’n weithredol at y cwricwlwm 14-19
- Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau dysgu yn cael eu cynllunio a’u bod yn hygyrch, er mwyn diwallu anghenion amrywiol pob dysgwr.
Swydd Wag 1
- 18.5 awr yr wythnos
- Parhaol
- £13,193 - £25,965 y flwyddyn (£26,386 - £51,931 Cyflog Amser Llawn)
- Campws Tycoch
Swydd Wag 2
- Hyd at 18.5 awr yr wythnos
- Cyfnod Penodol
- £18.23 - £35.89 yr awr (£26,386 - £51,931 Cyflog Amser Llawn)
- Campws Tycoch
Nodwch yn glir pa rôl sydd gennych ddiddordeb ynddi
Amdanoch chi
- Cymhwyster proffesiynol neu radd dosbarth cyntaf mewn maes perthnasol
- Meddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, gymhwyster addysgu cydnabyddedig
- Brwdfrydedd ac angerdd am yr awyr agored / garddwriaeth ac ecoadeiladu
- Sgiliau rheoli dysgwyr gwych ynghyd â dycnwch, ymrwymiad ac amynedd i ddelio ag amrywiaeth o ddysgwyr, llawer ohonynt yn ddysgwyr ADY sydd ag ymddygiad heriol
Buddion
- 46 diwrnod (pro-rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28% ar gyfartaledd (2025)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
- Cyflog Amser Llawn: £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
- Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
- Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
For employers only
Is this your company's job post? Verify ownership to manage this listing and receive applications directly.
Claim this listingLooking to apply for this job? Use the Apply button above.
See more jobs in Swansea, Wales