Hyfforddwr - Iechyd a Diogelwch
Gower College Swansea
Amdanom ni
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd uchel ac asesu ein contract dysgu seiliedig ar waith.
Yn ogystal â bod yn ‘hyfforddwr’, byddwch yn gweithredu fel mentor i’r dysgwyr yr ydych yn eu cefnogi, a byddwch yn eu hannog i ddefnyddio tystiolaeth o wybodaeth yn eu portffolios er mwyn iddynt arddangos y sgiliau dysgu seiliedig ar waith y maent wedi’u hennill yn ystod y rhaglen.
- Amser Llawn (37 awr yr wythnos)
- Parhaol
- £36,806 - £42,817 y flwyddyn
- Llys Jiwbilî, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o raglenni gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau’r corff dyfarnu.
- Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau dysgu’n cael eu cynllunio a gwneud yn siwr eu bod yn hygyrch i ateb anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr. Byddwch hefyd yn siccrhau bod mentrau trawsbynciol (megis Gwerthoedd Prydeinig, Diogelwch, Sgiliau Hanfodol Cymru) yn cael eu hymgorffori a’u hasesu’n effeithiol.
- Addysgu, asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw a chynnal cofnodion gwaith a chyflawniad.
Amdanoch Chi
- Cymhwyster Iechyd a Diogelwch perthnasol (e.e. NEBOSH, IOSH)
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd a diogelwch yn ddymunol
- Gwybodaeth fasnachol, profiad a dealltwriaeth o’r diwydiant, gan gynnwys anghenion hyfforddi
Buddion
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
- 2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
- Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.
Gwybodaeth Bellach
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
- Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
- Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
For employers only
Is this your company's job post? Verify ownership to manage this listing and receive applications directly.
Claim this listingLooking to apply for this job? Use the Apply button above.
See more jobs in Swansea, Wales