Cydlynydd Cyllid Allanol

Gower College Swansea

Date: 4 weeks ago
City: Swansea, Wales
Salary: £29,522 - £32,084 / yr
Contract type: Contractor

Amdanom ni

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.

Y rôl

Cydlynu a gweithredu gweithdrefnau gweinyddu cyffredinol mewn perthynas â phrosiectau’r coleg a ariennir yn allanol.

Cydlynu a gweithredu dyletswyddau allweddol sy'n ymwneud â chasglu gwybodaeth, yn unol â gofynion cyrff cyllido perthnasol.

Cyflwyno gwybodaeth ystadegol gywir i’r Arweinydd Cyllid Allanol a Rheolwyr Prosiect perthnasol eraill er mwyn monitro cynnydd prosiectau yn unol â gofynion y ffrydiau ariannu.

  • Amser Llawn (37 awr yr wythnos)
  • Cyfnod Penodol (tan fis Mawrth 2027)
  • £29,522 - £32,084 y flwyddyn
  • Campws Kingsway, Abertawe

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cydlynu'r proses o gasglu (a sicrhau ansawdd) cofnodion ariannol er mwyn hwyluso’r gwaith o sicrhau grantiau ar gyfer prosiectau a ariennir yn allanol - yn unol â Gweithdrefnau Archwilio Cyllid y Coleg a Chyllid Allanol.
  • Cynnal gwybodaeth ystadegol am holl drafodion ariannol y Coleg mewn perthynas â phrosiectau a ariennir yn allanol, gan gynnwys casglu a choladu data am weinyddwyr prosiectau.
  • Cynnal gwybodaeth ystadegol er mwyn cyflawni prosiectau a ariennir yn allanol yn y Coleg yn unol â Gweithdrefnau Archwilio Cyllido'r Coleg a Chyllid Allanol.

Amdanoch Chi

  • NVQ Uwch/Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes neu gymhwyster cyfwerth.
  • Lefel 2 (TGAU Gradd A-C) neu gymhwyster Mathemateg a Saesneg cyfwerth.
  • Profiad o ddiwallu gofynion archwilio cronfeydd Ewropeaidd a chronfeydd allanol eraill.

Buddion

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
  • 2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
  • Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.

Gwybodaeth Bellach

  • Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg

I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu

Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
  • Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).

For employers only

Is this your company's job post? Verify ownership to manage this listing and receive applications directly.

Claim this listing

Looking to apply for this job? Use the Apply button above.